Gartref     Cymorth a Chyfarwyddyd
[ Flaenorol][Nesaf ] [Gartref] [Cymorth A Chyfarwyddyd] [Yn Ôl] [Saesneg]

Llety Gwledig Brynarth

Gorweddai Gwesty Gwledig Brynarth mewn dyffryn diarffordd yng nghesail y Mynyddoedd Cambriaidd ac fe’i lleolir yn ei saith acer ei hun o borfeydd a choedwigoedd y mae croeso i westeion eu harchwilio.

Clwstwr o adeiladau Fferm Cymreig Traddodiadol ydyw sy'n 3 seren, wedi’u adeiladu o amgylch buarth a phwll pysgod canolog. Mae’r tŷ a’r beudai, sydd wedi eu hadeiladu o lechi a cherrig, dros 300 mlwydd oed ac wedi’u haddasu a’u hadnewyddu er mwyn darparu’r holl gyfleusterau modern tra’n cadw eu cymeriad ar ffurf trawstiau gweledol a llefydd tân agored.

Ceir croeso cynnes a bwyd gwledig ffresh gyda marmalêd cartref, mêl lleol ac wyau oddi wrth ieir rhyddion, sydd oll yn ychwanegu at y lleoliad arbennig a diarffordd hwn.

Encil go iawn yw Brynarth, wedi ei leoli’n wych er mwyn cerdded, gwylio adar, pysgota, golffio, teithio ac ymchwilio i achau teuluol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gerllaw yn Aberystwyth.

Ardaoedd o brydferthwch swynol yw Dyffrynoedd cyfagos yr Ystwyth ac Elan sydd o hyd heb eu darganfod yn helaeth gan y torfeydd. Eto, dim ond deng milltir o’r arfordir a thref Prifysgol Aberystwyth yw Brynarth, sy’n rhoi’r gorau o ddau fyd i ymwelwyr.

Rydym hefyd yn cynnig Bwthyn huna arlwyo sy'n 4 seren. Rydym ar agor drwy gydol y flwyddyn.



Llety Gwledig Brynarth

Lledrod,
Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 4HX.


Er mwyn rhagor o wybodaeth cysylltwch â Cathy and Ian Campion
Ffôn: 01974 261367
Ffacs 01974 261367
E-bost bookings@brynarth.co.uk
Safle we:www.brynarth.co.uk


acc_8


Mae ar y safle hwn angen Internet Explorer 5 neu Netscape Navigator 7, yn ogystal â Macromedia Flash Player 6.
[Flaenorol] Top Gartref Cymorth A Chyfarwyddyd Yn Ôl Saesneg [Nesaf]