|
|
Mae’r Hafod yn enwog yn bennaf oherwydd ei chysylltiadau gydag unigolyn ysbrydoledig, Thomas Johnes, a oedd yn berchen ar yr Ystâd rhwng 1780 ac 1816. yn y cyfnod hwn yr oedd teithiau o amgylch ardaloedd mynyddig a’u golygfeydd gwyllt, yn ogystal ag hynafiaethau Cymru, yn ffasiynol ymysg y dosbarthiadau bonheddig, a gwnaeth Johnes yr Hafod yn gyrchfan hanfodol ar gyfer y twristiaid cynnar hyn. Ffurfiodd dirwedd a oedd eisoes yn drawiadol yn y dull “picturesque”, creodd lwybrau i’w wneud yn hygyrch, adeiladodd bontydd, gerddi, bythynod a fferm fodel, cododd dai newydd â golwg rhamantaidd iddynt, ac, er mwyn lletya ei ymwelwyr, adeiladodd westy’r Hafod Arms gerllaw ym Mhont-ar-fynach (a oedd bryd hynny’n rhan o Ystâd yr Hafod). Er bod plas Johnes wedi’i ddifetha erbyn hyn, erys elfennau naturiol y tirwedd – golygfeydd o’r afon Ystwyth, coedwigoedd, rhaeadrau, clogfeini – ac mae’r llwybrau hanesyddol a’r nodweddion eraill yn cael eu hadfer gan Fenter Coedwigaeth, mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth yr Hafod. Mae’r Hafod yn agored i’r cyhoedd drwy’r amser yn rhad ac am ddim, er y gall gwaith adfer neu waith coedwigaeth gyfyngu ar fynediad o bryd i’w gilydd. Mae llwybrau cerdded yn cychwyn yn y maes parcio ger yr eglwys (ar y B 4574), lle mae taflennu ar gael yn rhad ac am ddim, ac hefyd ceir rhaglen o deithiau cerdded tywysedig o amgylch yr ystâd yn ystod y flwyddyn.
| |||||
![]() | ||||||
pla_10
|