Gartref     Cymorth a Chyfarwyddyd
[ Flaenorol][Nesaf ] [Gartref] [Cymorth A Chyfarwyddyd] [Yn Ôl] [Saesneg]

ADAS Pwllpeiran

Canolfan Ymchwil a Datblygaeth ar gyfer ADAS Cymru yw Pwllpeiran – mae ADAS yn Gyfundrefn Ymchwil ac Ymgynghoraeth blaengar ar gyfer diwydiannau sy’n seiliedig ar y tir.

Mae gan Pwllpeiran hanes hir a nodedig o ymwneud â newid a datblygiad yn yr Ucheldiroedd Cymreig ac yr oedd ers talwm yn rhan o ystâd Hafod enwog Thomas Johnes. Yn yr 1930au daeth yn ganolfan i Gynllun datblygu arloesol Cahn Hill Sir George Stabledon, cyn newid yn 1955 i fod yn Fferm Hwsmonaeth Arbrofol ar gyfer y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd.
Yr oedd i hyn ddau amcan:-
Yn gyntaf i arddangos integreiddio rhwng coedwigaeth ac amaethyddiaeth, ac yn ail er mwyn datblygu systemau ymarferol o gynyddu’r mewnbwn o Ffermydd Mynyddig Cymreig, fel modd o gynnal poblogaeth ac incwm gwledig.

Dros gyfnod o drideg mlynedd cynyddodd Pwllpeiran ei allbynnau amaethyddol yn sylweddol, fe defnyddiwyd systemau Pwllperian gan nifer o ffermwyr a cafodd hyn effaith difrifol ar y tirwedd ar amgylchedd.
Heddiw nid yw’r un bwyslais yn cael ei roi ar allbynnau ac mae’r ucheldiroedd yn cael ei rheoli dan sawl nod sy’n cynnwys creu economi gwledig sy’n medru arallgyfeirio ac yn ceru swyddi a cymunedau sefydlog. Mae’r newid yma mewn strategaeth yn amlwg yn allbynnau Pwllpeiran heddiw.
Nid yw Pwllpeiran yn atyniad ymwelwyr ond mae diwrnodau agored lle mae bob croeso i’r cyhoedd weld beth sy’n digwydd yn cael ei cynnal yn gyson.



ADAS Pwllpeiran

Cwmystwyth,
Aberystwyth,
SY23 4AB.
Ffôn: 01974 282229
Safle we:www.adas.co.uk


pla_9


Mae ar y safle hwn angen Internet Explorer 5 neu Netscape Navigator 7, yn ogystal â Macromedia Flash Player 6.
[Flaenorol] Top Gartref Cymorth A Chyfarwyddyd Yn Ôl Saesneg [Nesaf]