Gwylio Adar
Y seren ar gyfer aderegwyr yng Nghanolbarth Cymru yw'r Barcud Coch chwedlonol. Er iddo gael ei erlid hyd nes ei ddileu bron, mae'r aderyn gwych hwn yn esgyn â balchder uwchben mynyddoedd a dyffrynoedd Canolbarth Cymru. Un o nifer o adar prin a phrydferth yn yr ardal yw'r Barcud Coch, sydd yn siwr o blesio aderegwyr pybyr. Edrychwch hefyd am hebogiaid, Tylluanod, Bodaod, Cigfrain a Chidyllod, heb sôn am nifer o fathau o adar y dwr a rhydwyr.
Y lle gorau i weld y Barcud Coch yw yng
Nghanolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian,
lle gallwch wylio'r adar yn cael eu bwydo'n ddyddiol am 3 y prynhawn. Mae nifer o flychau nythu yn y goedwig gerllaw, ac mae linc-fideo at y ganolfan ymwelwyr yn dangos yr hynny sy'n digwydd ynddynt wrth i'r rhieni fagu eu cywion.
Map Deithio
 |
| Y Barcud Coch
|
|
All original material on this site is © Pentir Pumlumon, or © individual Pentir Pumlumon Members, unless otherwise stated.
Reproduction is expressly forbidden without prior consent.
Site design and development by
Nantinet 
.