Pysgota yng nghalon Pum Copa Pumlumon
Mae’r ardal yn cynnig amrywiaeth eang o bysgota, wedi eu lleoli yn rhai or llefydd mwyaf poblogaidd, a phrydferth yng Nghymru, ac eto nid yw calondir y mynyddoedd yn bell. Mae’n bosib taw dyma’r gyfrinach sydd yn cael ei chadw orau ym Mhrydain. Dwr clir, awyr clir, golygfeydd godidog or mynyddoedd,gweundir a chwm afonydd. Dyma ardal heddychlon, cartref y barcud coch, lle gwych i ymlacio, mwynhau pleserau syml y wlad, a mynd a chi i fyd paradwys.
Pysgotwch am eog a llawer mwy ar yr afonydd, brithyll yr enfys a brithyll brown yn y llynoedd, neu os hoffwch, pysgota bras.
Mae afonydd cymru yn enwog am bysgota am frithyll y mor. Mae’r afonau Rheidol a’r Ystwyth, sy’n codi yn yr ardl ac yn cwrdd a’r mor yn Aberystwyth, yn llai adnabyddus. Mae pysgod i fynny at 10 pwys yn bosib yw dal a bob blwyddyn mae pysgod y pwysau hyn neu fwy yn cael ei dal yn eu nifer. Os ydych yn dal y tywydd cywir bydd hynny yn helpu chi i ddal rhagor.
Mae’r afon Ystwyth yn medru codi a gostwng unrhyw adeg or flwyddyn, felly mae’r llif ddwr yn bwysig. Yng Nghwm Rheidol mae yna orsaf bwer electric hydro yno i reoli’r dyfnder felly allwch sicrhau digon o ddwr ar dywydd sych yn yr haf. Mae’r ddwy afon yn cynnwys rhediadau gydag eog, ond y sewin cyffrous neu’r brithyll yw’r mwya poblogaidd gan bawb yn yr afonydd hy.
Mae AA Aberystwyth yn rheoli 16 milltir, y ddau gwm, yr afon Rheidol a rhan is Ystwyth. Mae AA Llanilar yn rheoli llawer or Ystwyth. Mae AA Aberystwyth a Llanilar yn rhoi croeso cynnes i bysgotwyr.
Os oes yni gyda chi, rhanwch y pysgota afon gyda physgota ar Ddwr llonydd. Mae yna lynodd niferus i’w gael ar yr ucheldir yn yr ardaloedd yma, sy’n cynnwys brithyll brown, ond mae rhai llynoedd yn cynnwys brithyll yr enfys yng nghyd ar rhai brown. Gellir defnyddio unrhyw fath o ddull pysgota yma, hyd yn oed cychod, ond mae rhai rheolau ar wahanol lynoedd mwy llym na’r lleill.
Nid yn unig yw pysgota yn rhad, ond mae ar gael i unrhyw un o’r cyhoedd, dan ofal busnesau lleol neu corf y cyhoedd.
Ac i’r ambell ddwrnod nad ydych am bbysgota, mwynhewch y golygfeydd anhygoel, ymwelwch ar arfordir, ymwelwch ar adar bach, seclwch neu marchogwch ar hyd y llwybrau niferus sydd ar gael iddynt. Mae yna ddigon i wneud i’r pysgotwr ar teulu ym Mhumlumon – Pum pig yng ngalon mynyddoedd Camcrian yng Ngorllewin Cymru.
|