Gweithgareddau
Chwaraeon, Antur, Adloniant a Gweithgareddau - mae rhywbeth ar gyfer pawb i'w fwynhau o fewn ardal bendigedig y Pum Copa.
Llwybrau Beicio Mynydd amrywiol sy'n ddigon i gyffrou'r ifanc ac herio'r profiadol fel ei gilydd, tra bydd cerddwyr a chrwydrwyr yn mwynhau heddwch llwybrau mewn coedwigoedd a ger llynnoedd.
Ceir amrywiaeth o weithgareddau poblogaidd a chwaraeon.
Mae trwyddedau Pysgota yn hawdd i'w cael ar gyfer pysgota yn yr amgylchedd brydferth hon. Bydd Marchogion, naill ai'n ddechreuwyr neu'n brofiadol, yn mwynhau Marchogaeth a Merlota, gydag hyfforddiant arbenigol wrth law. Ceir cyfleusterau a chyrsiau Golff gwych yn yr ardal.
Bydd aderegwyr, yn amatur neu'n broffesiynol, wrth eu boddau gyda'r cyfleoedd i weld adar ysglyfaethus prin yn eu cynefin naturiol, ac mae Gorsafoedd Bwydo Adar yn rhoi cyfle diddorol er mwyn cael golwg agosach ohonynt. Yn olaf, ar gyfer unigolion anturus, mae cyfleusterau Gwersylla, sydd wedi eu lleoli'n ofalus, yn cynnig rhydid i archwilio hud a lledrith y Pum Copa yn eich amser eich hun.
Er mwyn rhagor o wybodaeth ar weithgaredd penodol, cliciwch ar y linc isod os gwelwch yn dda.
Mountain Biking
Bird Watching
Walking
Fishing
Camping
Horse Riding
Golf
|
All original material on this site is © Pentir Pumlumon, or © individual Pentir Pumlumon Members, unless otherwise stated.
Reproduction is expressly forbidden without prior consent.
Site design and development by
Nantinet 
.