Heicio, Cerdded a Chrwydro
Dyma un o weithgareddau mwyaf poblogaidd ardal Pentir Pumlumon I unigolion, teuluoedd neu bartion. Yma yn ardal Pentir Pumlumon gall gerddwyr, heicwyr, neu grwydwyr ddarganfod eu lleoliad delfrydol trwy ymlwybro ar hyd a lled cefn gwlad, yn wir, ni ellir cael gwell mannau cerdded. Yma ceir y cyfan, golygfeydd godidog, llwybrau cyffroes I’r bobl heriol, a llwybrau ychydig yn haws I’r rheini ohonoch sydd am gymeryd pwyll, neu yn ran o deulu. Darparir y lleoliad perffaith I chwi ym mynyddoedd Pentir Pumlumon ac ar lan y llynoedd , gyda digonedd o awyr iach. Dyma uchafbwynt prydferthwch canolbarth cymru, y cerddwyr yn gwerthfawrogu’r prydferthwch hwn, ar crwydwyr yn archwilio am y llwybrau cudd. Dewch I gerdded amryw lwybrau’r Hafod lle bu unwaith blasty crand, hardd o dan ofal Thomas Jones. Ceir hefyd lwybrau cerdded frongoch a Pontarfynach lle eto gwelir golygfeydd anhygeol. Beth am Gerdded I fynny at gopa Pentir Pumlumon, dyma daith heriol sydd yn mynd I brofi eich ffitrwydd, neu beth am amlwybro’ch ffordd ar hyd llwybrau Nant Yr Arian lle gwelir adar gwyllt, blodau gwyllt, Canolfan bwydo’r Barcud Coch a beicio cyffroes. Yn wir, dim ond ychydig allan o ganoedd o lwybrau sydd wedi eu rhestri uchod. Dewch I fwynhau, a cofiwch ddod a’ch esgidiau cerdded, bydd arnoch eu heisiau!!
Y Map Deithio yn dangos lleoliadau o'r holl
Llwybrau Cyfeirbwyntiedig in yr adal
|
All original material on this site is © Pentir Pumlumon, or © individual Pentir Pumlumon Members, unless otherwise stated.
Reproduction is expressly forbidden without prior consent.
Site design and development by
Nantinet 
.